Death

Date 19 February 1881
Place Cilwern, Llandeilo, Carmarthenshire, Wales
Description Vol 11a Page 536

Source References

  1. Y Tyst
      • Date: 19 January 1916
      • Page: Page 9
      • Citation:

        Y Ddiweddar Mrs. Anne Evans, Ffairfach, Llandeilo.

        Priod Henry Evans, gynt o'r Gelli, nawr o Hedington, Ffairfach, ydoedd Mrs. Anne Evans. Wrth ei rhoi yn y bedd rhwng dau a thri prydnawn ddydd Llun, Ionawr 10fed, gwelsom ar ei harch, 'Anne Evans. Ganwyd Chwefror 18fed, 1839. Bu fawr Ionawr 6ed, 1916.' Cadd hithau, fel ei thylwyth, hirhoedledd i ynyl y pedwar ugain. Erysn un o'i brodyr eto, sef David Jones, Cilwern, yr hwn sydd wedi croesi ei 80 oed. Bu ei thad a'i mam, a mab a merch i deulu ei rhieni, farw yn eu 77, ac wele hithau yn ei 77 oed. Erys ei phriod, yr hwn, er yn wr dall er's blynyddoedd, sydd yn aelod a diacon o werth mawr yn y Tabernacl, Llandeilo. Yr oedd yn fam i ddeg o blant. Y mae pump ohonynt wedi croesi drosodd o flaen eu mam, ac mae'r pump eraill yn aros hyd heddyw, sef David Evans, Towy Stores, Llandeilo, a Mrs. Jones, priod y Parch. J. D. Jones, Llanfair a Cellan, ac mae'r tri mab arall yn America mewn safleoedd o anrhydedd ac ymddiriedaeth.

        Yr oedd hi yn ddynes o arbenigrwydd. Meddai ar ewyllys gref, a deall cyflym, a chyngor diogel. Hawdd oedd gweld yn ei symudiad a'i golwg ei bod yh frenhines ar ei haelwyd, ac yn feistres yn ei hamgylchiadau, ac yn gymeriad cryf yn ei heglwys. Aethai i'r farchnad yn deall busnes, ac aethai i'r addoliad ar y Saboth yn deall ei hangen a'i Duw, ac yr oedd ei chraffter a'i chydymdeimlad a'i doethineb yn ei gwneud yn allu mawr ar ei haelwyd.

        Dan beth mawr ei bywyd ydoedd ei haelwyd a'i haddoldy, ac erys dylanwad y ddau beth hyn ar ei phlant, a phlant ei phlant.

        Yr oedd ei chladdedigaeth yn cynnwys pennau teuluoedd amlwg y dref a'r ardal ac o bell, megis Mr. Preece, Porth; Mrs. Griffiths, Maesgwyn, Rhondda; Mrs. H. T. Jacob, Abergwaun; a lliaws o Llanfair, Cwnllynfell, &c. Ac yr oedd cryfder ac urddas yn y dwasanaeth claddu, yn enwedig y bregeth gan ei gweinidog, y Parch. W. Davies, yr hwn a gynorthwywyd yn y capel gan y Parchn. - Roberts, M.A., B.D., Memorial Hall; D. Bowen, Hermon; S. Thomas, Salem; H. T. Jacob, Abergwaun; - Davies (W); D. Silyn Evans a D. Harries.

        Rhoddwyd ei chorff mewn bedd glân, ar brydnawn gwaith dan gymylau, ym mynwent gysegredig y Tabernacl, y dywedai Penry cyn marw am dano: 'O! 'r hen Dabernacl annwyl! Wyt mor annwyl i mi ag oedd y deml i Solomon, yr hen Dabernacl annwyl.' Heddwch i'w llwch.

         

         

        The Late Mrs. Anne Evans, Ffairfach, Llandeilo.

        Wife of Henry Evans, formerly of Gelli, now of Hedington, Ffairfach, was Anne Evans. As she was buried between two and three in the afternoon on Monday, January 10th, we saw on her coffin 'Anne Evans. Born February 18th, 1839. Died January 6th, 1916.' She, like her family, had longevity to the tune of the eighty. One of her brothers survives her, David Jones, Cilwern, who has just crossed his 80s. Her father and mother, and a son and daughter of her parents' family, died at the age of 77, and, lo, she was 77. Her husband, who, though a blind man for many years, remains a member and deacon of great value at Tabernacle, Llandeilo. She was the mother of ten children. Five of them have predeceased their mother, and the other five are still alive today, namely David Evans, Towy Stores, Llandeilo, and Mrs. Jones, wife of Rev. J. D. Jones, Llanfair and Cellan, and the other three sons are in America in positions of honor and trust.

        She was a woman of distinction, of strong will, and quick understanding, and safe advice. It was easy to see in her movement and appearance that she was the queen of her home, and a mistress in her circumstances, and a strong character in her church. She went to the market understanding business, and she went to Sunday worship knowing her need and her God, and her acumen and sympathy and wisdom made her a great power.

        Underneath her great life was her home and her place of worship, and the influence of these two things on her children, and those of her children, remain.

        Her mourners included the heads of prominent families of the town and district and from afar, such as Mr. Preece, Porth; Mrs. Griffiths, Maesgwyn, Rhondda; Mrs. H. T. Jacob, Fishguard; and many of Llanfair, Cwnllynfell, &c. There was strength and dignity in the burial service, especially the sermon by her minister, the Rev. W. Davies, who was assisted in the chapel by the Rev. - Roberts, M.A., B.D., Memorial Hall; D. Bowen, Hermon; S. Thomas, Salem; H. T. Jacob, Fishguard; - Davies (W); D. Silyn Evans and D. Harries.

        Her body was laid in a clean tomb, on a cloudy afternoon, in the sacred Tabernacle cemetery, under which Penry said before dying: 'Oh! dear old Tabernacle! You are as dear to me as the temple was to Solomon, the beloved old Tabernacle. ' Rest in peace.

  2. General Register Office: England & Wales Death Index
  3. General Register Office: GRO Digital Image
      • Date: 21 February 1881
      • Page: Death - David Jones