Residence

Date 9 January 1894
Place Treherbert, Ystradyfodwg, Glamorgan, Wales

Source References

  1. Tarian Y Gweithiwr
      • Date: 18 January 1894
      • Page: Page 3
      • Citation:

        [paragraph breaks added]

        CLADDEDIGAETH MR. DAVID JOHN

        ARWEINYDD Y CANU YN EBENEZER, ABERDAR, AM YN AGOS I BUM MLYNEDD A DEUGAIN.

        Ymddangosodd hanes ei farwolaeth yn rhifyn diweddaf o'r DARIAN. Hawdd iawn ydoedd casglu nad dyn cyffredin oedd yn cael ei gladdu o Harriet Street, Trecynon, prydnawn dydd Mawrth, y 9fed o Ionawr. Canys gwelid y blinds i lawr ar y ffenestri, a gwelid y tyrfaoedd yn dod o wahanol gyfeiriadau. Yr oedd yr angladd i godi am haner awr wedi dau o'r gloch; yn y ty cyn cychwyn, darllenwyd a gweddiwyd yn ddwys gan ei weinidog, y Parch. J. Grawys Jones. Yr oedd yn drefn i fyned i Ebenezer i gynal gwasanaeth crefyddol cyn myned i Gladdfa Gyhoeddus Aberdar.

        Gyda chychwyn, ymffurfiwyd yn orymdaith. Yn blaenori yr oedd gweinidogion, lleygwyr, a boneddigion ereill, yn dilyn ac o flaen y corff yr oedd y cantorion yn gor cryf a lluosog. Caoasant emynau o brogram paratoedig ar gyfer yr amgylchiad. Ar ol cyraedd yr Addoldy, tra yr oedd y dorf yn cymeryd eu lleoedd, a'r corff yn cael ei ddwyn i fewn, chwareuwydd yr Alar don ar yr offeryn, gan Mr. T. Lewis, chwareuydd y capel. Yr oodd y cantorion i gyd yn llenwi yr oriel, ac o dan arweiniad Mr W. F. Thomas, arweinydd corawl y lle. Dechreuwyd y gwasanaeth trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. D. Griffiths, Cwmdar.

        Yna siaradodd Mr Jones, y gweinidog ychydig eiriau. Dywedodd fod y dydd hwnw yn ddiwrnod tywyll iddynt hwy fel eglwys, eu bod yu claddu un oedd wedi bod yn gymeriad amlwg iawn yn yr eglwys am lawer iawn o flynyddoedd. Eu bod wedi bod yn gobeithio y cawsai y brawd David John fyw am ychydig flynyddoedd i ddyfod, er iddynt gael cynal ei Jiwbili ar ei ddyfodiad i'r lle, ond mai nid dyna oedd ewyllys yr Arglwydd. Ond er fod y diwrnod yn dywyll iddynt, fod i'r cwmwl ei ochr oleu. Dywedai pe cawsai Mr John fyw ychydig fisoedd, y buasai wedi bod yno am bum' mlynedd a deugain, ac wedi bod trwy yr holl gyfnod hirfaith yn arweinydd y gan, a'i fod felly hyd ef farwolaeth.

        Yr oedd wedi bod yn llenwi y swydd o ddiacon am lawer o flynyddoedd. Dywedai fod yn yr eglwys ddynion rhagorol yn y blynyddoedd hyn, ond fod Mr John, yn herwydd ei safle fel arweinydd, wedi bod y cymeriad mwyaf amlwg yn yr eglwys. Yr oedd wedi derbyn llythyrau oddiwrth amryw hen gyfeillion ddymunasent fod yn yr angladd, ond nad oedd yn bosibl iddynt. Enwodd Mr J. Hees, Inspector of Schools, Abertawe; a Caradog. Gan fod yno amryw frodyr a chyfeillion i Mr John - rai a i hadwaenent yn dda, ei fod yn myned i alw arnynt hwy i siarad, gan ei fod yntau yn bwriadu pregetbu pregeth angladdol iddo y Sul dilynol.

        Galwodd ar y Parch W. Morris, Pontypridd. Dywedai Mr Morris y galiasai ddweyd llawer iawn am ragoriaethau Mr John, fod yr amser yn fyr iddo gael. Na wyddai yn iawn pa beth i'w ddywedyd. Daethai i aros i'r lle hwn pan nad oedd ond llanc ieuanc dwy ar bymtheg ar hugain oed. Ymaelododdyn eglwys Ebenezer, a bu yn aros o dan gronglwyd Mr John am yn agos i bedair blynedd. Gwyddai yn dda am ei weitbgarweh a'i ffyddlondeb yn yr eglwys; ond cael cyfleusdra i'w adnabod yn ei dy ei hun oedd y fantais oreu er ei adnabod yn iawn. A pha mor ddysglaer bynag oedd yn ei ragoriaethau a'i rinweddau yn yr eglwys. yr oedd yn llawn mor ddysglaer ei gymeriad fel dyn didwyll, gonest, a phur, ac fel penteulu duwiol yn ei cy ei hun. Wrth lafurio yn dda ar gyfer y byd arall, nid oedd yn esgeuluso hwn, ond gwnelai y goreu o'r ddau, Nis gallasai ddywedyd pa mor ddyl edus oedd i Mr David John.

        Galwyd yn nesaf ar y Parch T. J. Jenkyn, Llwynpia. Sylwai fod ei frawd wedi son am Mr John yn ei gartref, yn herwydd ei gysylitiad â rbai o deuiu Mr John - mai fel dyn oddicartref yr oedd af wedi dod i gyffyrddiad ag ef, a'i adnabod yn dda. A pba mor ddysglaer bynag oedd yn ei gartref, ac yn ei gylchoedd cartref, er ei fod wedi codi te[u]lu oedd yn anrhydedd i'w cael. &c.

        Mr. M. O. Jones, Treberbert, a ddywedai ei fod yn teimlo yn anbawdd i siarad. Ei fod nos Sul diweddaf yn nghapel King's Cross, Llundain, yn gwrandaw ar Dr. Owen Evans yn traddodi pregeth angladdol ar ol diacon o'r eglwys - teulu mewn galar, eglwys mewn galar. Ei fod yn meddwl ar y pryd mor anhawdd oedd pregethu; ei fod yntau yn teimlo yn anhawdd i siarad ar yr amgylchiad. Yr oedd yn adnabod Mr. John er ys deng mlynedd ar hugain. Iddo y pryd hwnw gael rhagarweiniad i gymeriad y dyn. Yr oeddent yn cychwyn eglwys ieuanc yn Nhreherbert, ac eisieu cymorth arnynt. Gofynodd i Mr. David John roddi cynorthwy iddynt, a gwnaeth hyny. Daeth ei gor o Ebenezer, gan gerdded yr holl ffordd yn groes i'r mynydd yn ol a blaen, er cynal cyngerdd i'w cynorthwyo. Gofynai pwy oedd yn b’arod i wneud peth tebyg yn awr. Ei fod wedi bod yn edrych ar Mr. John fel motto i fod yn debyg iddo fel arweinydd. Ei fod yn teimlo yn alarus iawn wrth feddwl ei fod wedi ymadael, ond er ei fod wedi ymadael, ei fod yn teimlo fod ei ddylanwad yn aros, a'i fod yno yn y canu ragorol y dydd hwnw.

        Y Parch. D. Thomas, Cymer, a dffywedodd ychydig eiriau am ei adnabyddiaeth o'r dyn rhagorol, a'i ddefnyddioldeb a'i wasanaeth, ac a ddilynodd trwy weddi.

        Sylwasom fod yno amryw gerddorion yn y capel. Gwelsom Mri. Rees Evans, a Dan Griffiths, Aberdar; Mr. Hywel Cynon, Aberaman; Alaw Brycheiniog, Cefn; a Mr. Richard Morris, Hirwann. Gallasai fod yno ereill na welsom. Ymffurfiwyd yn orymdalth i fyned tua'r gladdfa Gwelsom yn blaenori yr orymdaith y Parchn. Morris, Pontypridd; Thomas, Cymer; Griffiths, Cwmdar; Grawys Jones; Davies, Llwydcoed; Rees, Salem; Penar, Pentre Estyll; Silyn Evans, a Davies, Soar, Aberdar; Edmunds, Hirwaun; Jenkyn, Llwynpia; Davies, Ynyshir; Sulgwyn Davies, Siloh; Morgan (M.C.), Bryn Seion; Harris (B.), Heolyfelin; Mri. Thos. Williams, Gwaelodygarth; Thomas, Tynywern; Jeffreys, Treherbert; J. Rees, Aberaman; M. O. Jones, Treherbert; Hywel Cyoon, Aberaman; G. George, Aberdar.

        Canodd y cor, ffurfiedig o'r gwahanol gapelau, y tonau canlynol yn y capel, ar y ffordd, ac wrth y bedd, - Pen ftebo, Nantgau, Burford, Abergele, Dymuniad, Eifionydd, St. Luke, Henryd, Talybont, Lausanne, Rhuddlan, a chanwyd hefyd yr anthem, "Dyddiau dyn" yn ystod y gwasanaeth yn y capel. Sylwai rhai o'r cerddorion oedd yno nad yn ami y clywyd y fath garu rhagorol.

        Siaradwyd wrth y bedd gan y Parch G. Griffiths (Penar), Pentre Estyll, a gweddiwyd gan y Parch. J. Davies, Soar; ac wedi canu emyn gan y cor, ymadawsom a'r fangre gysegredig, lle y gorphwys gweddillion gwr a wasanaethodd ei Dduw a'i oes mor ffyddlon a neb o'i gydoeswyr yn y byd. Gadawodd weddw i ala u ar ei ol, dwy ferch, a dau o feibion. Y mae pob un o honynt yn llenwi cylchoedd o anrhydedd mewn cymdeitbas - y merched yn ysgolfeistresi, a'r meibion yn ysgolfeistri, un o honynt yn bur adnabyddus fel arweinydd, cerddor, golygydd, a beirniad, Mr. Tom John, Llwynpia. Boed nodded yr Arglwydd dros y weddw hyd ei bedd, a'i fendith ar y plant a'i hiliogaeth hyd byth.

        -- CYMYDOG.

         

         

         

        Translation:

        BURIAL OF MR. DAVID JOHN

        SINGING LEADER AT EBENEZER, ABERDARE, FOR NEARLY FORTY YEARS

        The story of his death appeared in the last edition of the TARIAN. It was very easy to see that it was no common man of Harriet Street, Trecynon, who was buried on Tuesday, January 9th. For the blinds were seen down on the windows, and the crowds were seen coming from all directions. The funeral began at half past two; in the house beforehand, the minister, the Rev. J. Grawys Jones, read and prayed intensely. They then went to Ebenezer to hold a religious service before the burial at the Aberdare Public Cemetery.

        Initially, a parade was formed. At the front came the ministers, lawyers, and other gentrymen, following behind and in front of the coffin were a great crowd of singers in strong voice. They sang hymns from a specially prepared programme. After arriving at the sanctuary, while the crowd took their places, and the body was brought in, the Alardon quarry choir sang, led by Mr. T. Lewis, chapel quarryman. All the singers filled the gallery, under the leadership of Mr W. F. Thomas, the choral leader of the place. The service was started by the Rev. D. Griffiths, Cwmdar reading and praying.

        The minister, Mr Jones, then spoke a few words. He said that this day was a dark day for them as a church, as they buried one who had been a very prominent character in the church for many years. They had been hoping that the brother David John would have lived for a few more years to come, so they could celebrate his Jubilee of his arrival to the place, but that was not the will of the Lord. But even though the day was dark for them, the cloud would have a silver lining. He said that if Mr John had lived a few months longer, he would have been there for forty years and had been for a long period of time as leader of song, which he was until he died.

        He had held the post of Deacon for many years. He said that the church had had many excellent men in these years, but that Mr John, because of his position as leader, had been the most prominent character in the church. He had received letters from various old friends who would have liked to have been at the funeral, but could not attend. Mr J. Hees, Inspector of Schools, Swansea; and Caradog[1]. He was going to call brothers and friends of Mr John - those who had known him well - to speak now and himself intended to preach a full eulogy to him on Sunday.

        He called on Rev. W. Morris, Pontypridd. Mr Morris said that he could say a great deal about Mr John's merits, but that time was too short and he did not know what to say. He came to the chapel when he was only twenty-five years old. He joined Ebenezer church, and stayed there under Mr John’s leadership for about four years. He knew well about his dedication and his faithfulness in the church; but having the opportunity to identify it in your own was the advantage of it to know it properly. And how deeply it was his excellency and his merits in the church. His character was so full of discernment as a sincere, honest man, and a man, and as a godly family in its own right. When working well for the rest of the world, he did not neglect this, but he would do the best of both, could not tell how Mr David John was.

        The Rev. T. J. Jenkyn, Llwynypia, was called next. His brother had mentioned Mr John at home having known Mr John's family. He had been totally at home in their house and consequently knew them very well. And he was a very busy lad who was at his home, and in his home circles, although he had raised a family that was honored to have. & c.

        Mr. M. O. Jones, Treberbert, said he felt inclined to speak. Last Sunday night in King's Cross chapel, London, he heard Dr. Owen Evans[2] deliver a funeral sermon after a deacon of the church - a family in grief, a church in grief. He thought at the time how difficult it was to preach; that he, too, found it difficult to speak on the circumstance. He had known Mr. John for thirty years. He then had an introduction to the character of the man. They started a young church in Treherbert, and sought help. He asked Mr. David John helped them, and he did. His choir came from Ebenezer, walking all the way across the mountain to and fro, to hold a concert to assist them. He asked who was ready to do a similar thing now. That he had looked up to Mr. John as an example, wishing to be a leader like him. That he felt very sad at the thought that he had left, but that although he had left, he felt that his influence was staying, and that he was there in the excellent singing that day.

        The Rev. D. Thomas, Cymer, and said a few words about his knowledge of the great man, his usefulness and his service, and followed with prayer.

        We noticed that there were several musicians in the chapel. We saw Mr. Rees Evans, and Dan Griffiths, Aberdare; Mr. Hywel Cynon, Aberaman; Alaw Brecknock, Cefn; and Mr. Richard Morris, Hirwann. There could have been others we didn't see. We formed a procession to go to the burial ground. We saw the procession was led by the Revs. Morris, Pontypridd; Thomas, Cymer; Griffiths, Cwmdar; Grawys Jones; Davies, Llwydcoed; Rees, Salem; Penar, Pentre Estyll; Silyn Evans, and Davies, Soar, Aberdare; Edmunds, Hirwaun; Jenkyn, Llwynpia; Davies, Ynyshir; Sulgwyn Davies, Siloh; Morgan (M.C.), Bryn Zion; Harris (B.), Heolyfelin; Messrs. Thos. Williams, Gwaelodygarth; Thomas, Tynywern; Jeffreys, Treherbert; J. Rees, Aberaman; M. O. Jones, Treherbert; Hywel Cyoon, Aberaman; G. George, Aberdare.

        The choir, composed of the various chapels, sang the following tunes in the chapel, on the road, and at the grave, - Pen ftebo, Nantgau, Burford, Abergele, Dymuniad, Eifionydd, St. Luke, Henryd, Talybont, Lausanne, Rhuddlan, and also sung the anthem "Dyddiau dyn" ["Man's Days"] was during the chapel service. Some of the musicians present noticed that such outstanding singing was rarely heard.

        The Rev. G. Griffiths (Penar), Pentre Estyll, spoke at the grave, and the Rev. J. Davies, Soar, prayed; and having sung a hymn from the heart, we left the sacred place, where the remains of a man who served his God as faithfully as any of his contemporaries in the world. He left a widow behind him, two daughters, and two sons. All of them fill circles of honor in society - the girls being schoolmistresses, and the sons being schoolmasters, one of them quite well known as a conductor, musician, editor, and adjudicator, Mr. Tom John, Llwynpia. May the Lord give protection over the widow to her grave, and bless the children and her offspring for ever.

        -- A NEIGHBOUR.

         

        [1] Caradog - conductor of the Côr Mawr, of which several members of the John Family were members: https://en.wikipedia.org/wiki/Griffith_Rhys_Jones

        [2] Rev Dr Owen Evans - a well-known figure in the Welsh chapels: https://newspapers.library.wales/view/3714206/3714214/56/evans