Public Event

Date 18 January 1875
Description Presentation of a testimonial to David John

Source References

  1. Y Gwladgarwr
      • Date: 23 January 1875
      • Page: Page 6
      • Citation:

        TRECYNON, ABERDAR.

        CYFLWYNIAD TYSTEB. - Nos Lun, Ionawr 18fed, cynaliwyd cyfarfod i'r dyben o gyflwyno tysteb i Mr. David John, arweinydd canu cynulleidaol a chôrawl eglwys Ebenezer, Trecynon. Cymerwyd y gadair gan y Parch W. Edwards, gweinidog, am haner awr wedi saith. Canwyd tôn i ddechreu, yna arseth gan y llywydd. Deuawd gan Mary a Margaret John. Mr J. Williams, London Warehouse, yn darllen yr anerchiad, yr oedd wedi ei osod allan yn ardderchog. Mr. William Owen, un o'r côr, yn cyflwyno y pwrs i Mr. John, yn yr hwn yr oedd £40. Cydnabyddodd Mr. John hwy am y rhodd mewn ychydig o eiriau pwrpasol. Rhoddodd hanes y canu yma er ys pum mlynedd ar ugain yn ol, yn nghyda'r cwrs yr oedd ef wedi ei gymeryd yn ystod y cyfryw amser. Yna, darllenwyd enwau'r tanysgrliwyr gan Tiberog, ysgrifenydd y dysteb. Wedi hyny, canwyd gan Mr. Daniel Davies a'i gyfellion, Mr. Daniel Lewis, Miss Mary Ann Evans, Mr. T. D. John, Ysgolion Llwynypia; areithiwyd yn bwrpasol gan Mr. Morgan Rowlands, Mr. Roger Jenkons, y Parch W. Harris, Trecynon y Parch W. Morris, Pontypridd, a Mr. Richard Wigley. Traddodwyd anerchiaudau barddonol gan Mr. Richard Williams, Ehedydd Cynon, a Tiberog. Yna, cafwyd cystadleuaeth mewn darllen ar y pryd, yn nodiant y Sol-ffa; buddugol, Mr. Edward Lewis. Buddugol ar ddarllen triawd ar y pryd oedd D. Davies, a'i gyfeillion, a D. J. Lewis a'i gyfeillion. Cafwyd cyfarfod dyddorol ac adloniadol iawn. Bydd yn dda gan gyfeillion Mr. John glywed am yr anrhydedd hyn. - Un oedd yno.

         

         

         

         

        TRECYNON, ABERDARE.

        PRESENTATION OF TESTIMONIAL. - On Monday, January 18th, a meeting was held with the purpose of presenting a testimonial to Mr. David John, congregational singing and choral conductor of Ebenezer church, Trecynon. Rev. W. Edwards, the minister, took the chair at half past seven. A tune was sung first, followed by a speech by the president. Duet by Mary and Margaret John. Mr J. Williams, London Warehouse, read the address, which was excellently laid out. Mr. William Owen, one of the choir, presented the purse to Mr. John, which contained £40. Mr. John thanked them for the gift in a few purposeful words. He gave a history of the singing for the last twenty-five years, together with the course he had taken during that time. The names of the subscribers were then read by Tiberog, the testimonial secretary. After that, Mr. Daniel Davies and his friends, Mr. Daniel Lewis, Miss Mary Ann Evans, Mr. T. D. John, Llwynypia Schools, sang a song; and purposeful addresses were given by Mr. Morgan Rowlands, Mr. Mr. Roger Jenkons, Rev. W. Harris, Trecynon Rev. W. Morris, Pontypridd, and Mr. Richard Wigley. Poetic addresses were given by Mr. Richard Williams, Cynon Sky, and Tiberog. Then there was a contest in sight-reading, in the notation of the Sol-fa; won by Mr. Edward Lewis. D. Davies, his friends, and D. J. Lewis and his friends were the winners of a trio reading at the time. It was a very entertaining meeting. Friends of Mr. John heard of this honor. - One who was there.

  2. Tarian Y Gweithiwr
      • Date: 22 January 1875
      • Page: Page 5
      • Citation:

        TRECYNON.

        CYFLWYNIAD TYSTEB. - Nos Lun, y 10fed cyfisol, cynaliwyd cyfarfod yu Ebeneser, i'r dyben o gyflwyno tysteb i Mr. David John, arweinydd canu cynulleidfaol a chorawl eglwys Ebeneser. Cymerwyd y gadair gan y Parch W. Edwards, gweinidog y lle. Canwyd tôn i agor y cyfarfod. Wedi cael anerchiad gan y llywydd, aed yn mlaen yn y drefn ganlynol:- Deuawd gan Mary a Margaret John. Darlleniad yr anerchiad gan Mr. J. Williams, London Warehouse, yr hwn oedd wedi ei osod allan yn hardd a destlus. Cyflwyniad y gôd a'r arian i Mr. John gan Wm. Owen, un a aelodau y côr, yr hwn oedd yn cynwys £40. Siaradodd Mr. John ychydig o eiriau byr a phwrpasol ar dderbyniad y dysteb. Rhoddodd ychydig o hanes y canu pan y daeth yma gyntaf, er ys pum mlynedd ar ugain yn ol, yn nghyd a'i gysylltiad ag ef o hyny hyd yn bresenol. Wedi hyny darllenwyd enwau y tanysgrifwyr gan Tiberog, ysgrifenydd y dysteb. Triawd gan Daniel Davies a'i gyfeilliony yn nesaf cawd anerchiad barddonol gan Darlwyn, Hedydd Cynon, a Tiberog. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod hefyd gan Daniel Lewis, gan Mary Ann Evans, Morgan Rowlands, Roger Jenkins, Parch. W. Harris, Parch. W. Morris, Pontypridd; Mr. T. D. John, Llwynypia Schools, sef mab gwrthddrych y dysteb; a Mr. Richard Wigley. Cafwyd cystadleuaeth darllen cerddoriaeth ar y pryd, yn nodiant y sol-fa; y buddugol Edward Lewis. Buddugol ar ddarllen triawd ar y pryd oedd David Davies a'i gyfeillion, a D. J. Lewis a'i gyfeillion. Cafwyd cyfarfod dyddorol ac adlonol iawn. Bydd yn dda gan luaws o hen gyfeillion Mr. John glywed am hyn - mae ganddo luaws o honynt. Yr oedd ef yn un o gadfridogion y cor mawr. - GOHEBYDD.

         

         

         

        TRECYNON.

        TESTIMONIAL PRESENTATION. - Monday, the 10th instant, a meeting was held at Ebenezer, with the sole purpose of presenting Mr. David John, congregational singing and choral conductor of Ebenezer church. The chair was taken by the Rev. W. Edwards, the minister of the place. A tune was sung to open the meeting. Addressed by the president, the following proceeded:- Duet by Mary and Margaret John. Reading of the address by Mr. J. Williams, London Warehouse, which was beautifully and neatly laid out. Presentation of the purse and the money to Mr. John by Wm. Owen, a choir member, which contained £40. Mr. John a few brief and purposeful words on the receipt of the testimonial. He gave a little history of the singing when he first came here, twenty-five years ago, and his connection with it from then until now. The names of the subscribers were then read by Tiberog, the testimonial secretary. A trio by Daniel Davies and his friends next is given a poetic address by Darlwyn, Hedydd Cynon, and Tiberog. Daniel Lewis, Mary Ann Evans, Morgan Rowlands, Roger Jenkins, Rev. W. Harris, Rev. W. Morris, Pontypridd; Mr. T. D. John, Llwynypia Schools, son of the recipient of the testimonial; and Mr. Richard Wigley. There was a music reading competition at the time, in the sol-fa notation; the winner was Edward Lewis. Winning trio reading at the time were David Davies and his friends, and D. J. Lewis and his friends. There was a very daily and entertaining meeting. Many old friends of Mr. John heard about this - he has a lot of them. He was one of the generals of the great choir. - CORRESPONDENT.